Os nad oes oergell ar gael, dylid defnyddio cig y diwrnod y caiff ei brynu. Mewn oergell, dylid gorchuddio cig amrwd a chig wedi ei goginio a'u cadw ar wahân, gyda'r cig amrwd ar silffoedd is na'r rhai sy'n cael eu defnyddio i gadw bwydydd wedi'u coginio.
Mae cymryd sylw o labeli cig yn hanfodol, ac os byddwch yn ei brynu oddi wrth gigydd, dylech ei labelu eich hunan i'ch atgoffa eich hun. Dilynwch y rheol 'cyntaf i mewn, cyntaf allan' er mwyn defnyddio bwyd sydd ag oes silff fyrrach yn gyntaf, a pheidiwch byth â defnyddio cig ar ôl y dyddiad defnyddio.
Osgowch orlwytho'ch oergell wrth storio cig. Mae oergell sydd wedi ei gorlwytho'n gorfod gweithio'n galed i gadw bwyd ar y tymheredd iawn.
Dylai cig ffres gadw am 3-5 diwrnod rhwng 2°C a 5 °C.
Cadw Cig yn y Rhewgell
Pennir amserau cadw cig yn ôl pa mor gyflym bydd y braster yn suro.
Hyd yn oed ar dymheredd mor isel, mae hyn yn broses raddol. Mae presenoldeb halen yn cyflymu'r newidiadau hyn ymhellach. Pan gaiff ei gadw ar dymheredd cyson o -18°C neu lai, gellir cadw cig am amser gymharol hir heb sylwi ar unrhyw ddirywiad yn yr ansawdd. Er y gellir ystyried bod cig sy'n cael ei gadw am yn hwy na'r amserau cadw a argymhellir yn dal yn ddiogel i'w fwyta, bydd ei flas yn dirywio'n gynyddol po hwyaf y caiff ei gadw.
Os na chaiff cig ei lapio'n ddigonol rhag oerni eithriadol y rhewgell, bydd yn dirywio'n gyflym. Dylid ei lapio'n dynn mewn deunydd cadarn sy'n gallu cadw lleithder ac anwedd allan. Mae dihydradu (llosg rhewgell) yn achosi newidiadau i'r lliw, y graen a'r blas. Bydd arwyneb y cig yn datblygu marciau llwydwyn a gall fod yn sych a diflas wrth ei fwyta. Dylid ystyried aeddfedu'r cig cyn ei rewi, gan nad yw cig yn aeddfedu pan fydd wedi rhewi.
Siart: Y cyfnodau storio hwyaf yn fras ar gyfer cig yn y cartref.
Cig Amrwd mewn Oergell (Niger y diwrnodau) neu Rewgell (Misoedd)
Cig Amrwd
|
Oergell (nifer y diwrnodau)
|
Rhewgell (nifer y misoedd)
|
Cig Eidion
|
3-5
|
12
|
Cig oen
|
3-5
|
9
|
Briwgig
|
1-2
|
3
|
Offal
|
1-2
|
3
|
Selsig
|
3
|
3
|
Diogelwch a Hylendid Cig
Mae gwybod sut i drafod cig a'i baratoi'n gyfrifol yn hanfodol hyd yn oed cyn dechrau coginio. Bydd yr adran hon yn dweud wrthych sut i ofalu am eich cig yn y ffordd orau bosibl.
Darnau neu gymalau cyfan?
Yn draddodiadol, caiff darnau cyfan o gig oen ac eidion eu gweini'n binc neu'n waedlyd.
Ailgynhesu cig
Wrth ailgynhesu cig, mae'n rhaid iddo fod yn boeth drwyddo i gyd a chyrraedd tymheredd craidd o 82°C. Ni ddylid ei ailgynhesu eilwaith.
Oeri Cig
Ar ôl ei goginio, ni ddylid oeri cig sydd i'w weini mewn oergell gan y gallai hyn gynhesu bwyd arall yn yr oergell. Y ffordd fwyaf diogel yw ei rannu'n feintiau llai mewn dysglau bas.
Storio bwyd (cynnes ac wedi'i oeri)
Cynnes
Rhaid cadw bwyd cynnes yn gynhesach na 63°C.
Wedi'i oeri
Rhaid cadw bwyd wedi'i oeri ar 5°C neu'n oerach: dylai rhan oeraf eich oergell fod rhwng 0°C a 4°C.