Ryseitiau Cig Oen Cymru

Rheseli Cig Oen Cymru gyda rhosmari, lemon a garlleg

  • 60Mun
  • 6
  • Prydeinig
  • Cytledi
Rheseli Cig Oen Cymru gyda rhosmari, lemon a garlleg

Dull

  1. 1
    Twymwch y popty i farc nwy 4-5, 180°C, 350°F. Cymerwch y ddwy resel oen a chyfrifwch yr amser coginio: Canolig - 25 munud y 450g/½kg (1lb) a 25 munud Coginio'n dda - 30 munud y 450g/½kg (1lb) a 30 munud
  2. 2
    Cymysgwch y rhosmari, croen a sudd y lemon, garlleg, olew olewydd a'r pupur, a rhwbiwch i mewn i'r rheseli.
  3. 3
    Coginiwch ar farbeciw wedi ei gynhesu'n barod gyda chaead arno neu rhowch ar resel mewn tun rhostio a rhostiwch yn agored am yr amser coginio angenrheidiol.
  4. 4
    Gweinwch y cig oen gyda thatws newydd a salad berwr a grawnwin.

Ryseitiau eraill efallai yr hoffech

Bydd angen

  • 2 resel Cig Oen Cymru coch
  • 2 sbrigyn mawr rhosmari ffres
  • 1 lemon, croen a sudd
  • 3 ewin garlleg, wedi'u torri'n hanner
  • 30ml (2 lwy fwrdd) olew olewydd
  • Pupur du

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 551kcal
  • Egni 2286kj
  • Braster 46.7 g
  • Braster Dirlawn 21.2 g
  • Halen 0.28g
  • Haearn 2.24mg
  • 5-y-dydd
this is meat stuff