-
1
Twymwch y popty ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180ºC, 350ºF.
-
2
Twymwch olew a menyn mewn padell fawr. Ychwanegwch y ciwbiau Cig Oen Cymru a’r cennin a’u coginio am ryw 2-3 munud.
-
3
Ychwanegwch y reis a’i droi’n dda, yna’r stoc boeth, a’i godi i’r berw.
-
4
Rhowch y gymysgedd mewn dysgl addas i’r popty, gyda ffoil drosti, a’i rhoi yn y popty am 20 munud.
-
5
Yna, ychwanegwch y courgette a’r ffa gwyrdd a’u cymysgu’n dda.
-
6
Rhowch y ddysgl yn ôl yn y popty, wedi’i gorchuddio, am tua 10 munud arall.
-
7
Tynnwch o’r popty ac ychwanegwch ragor o stoc os oes angen. Ychwanegwch y caws, y perlysiau a’r pys at y gymysgedd a’i throi.